Cilgeraint oedd un o’r tai cyntaf adnabyddus ac ar newydd wedd a ddylunwyd gan y practis, ac sydd wedi ei leoli dros harbwr Abersoch rhwng y ffordd a blaen y traeth.
Wedi ei gladdu i mewn i’r ddaear gyda’r cynllun llawr ar ffurf hanner cylch, mae’r to gwyrdd bwaog yn helpu i gyfuno a chuddio’r tŷ sy’n gamarweiniol o ran maint, i ymdoddi i’r cefndir. Mae dau stribyn mawr o wydr yn darparu golyfga ddi-dor o’r mȏr islaw, a llinellau cryf llorweddol yn angori’r adeilad i’r tirwedd.
Roedd yn heriol dechnegol ac anodd i godi tŷ ar lain o dir mor gul ar fin y dŵr, ac roedd yn rhaid gosod pyst cyn y gellid codi’r sylfeini.
Dobson Owen
3 Thomas Buildings
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5HH
post@dobsonowen.com
01758 614181

