Mae Dobson Owen wedi cael ei gomisiynu fel y prif ymgynghorydd i weithio ar y project cyffrous yma i ail-ddatblygu Gwesty y Tŵr, sydd yn gyn-westy Gradd 11 ar y stryd fawr ym Mhwllheli,i’w droi yn westy,tafarn a gofod cymunedol unigryw fydd yn perthyn i’r gymuned.
Mae’r adeilad yn wag ers 2019, ond bellach yn perthyn i’r gymuned a gasglodd £460,000 o bres drwy gynnig cyfranddaliadau.
Fel adeilad rhestredig hefo lle pwysig o ran budd economaidd ar y Stryd Fawr a gwerth hanesyddol i dref Pwllheli, mae’r prif adeilad yn meddu ar nodweddion cywrain y tu mewn a’r tu allan, tra yn y cefn mae’r stablau gwreiddiol o garreg, a’r coetsiws yn gaffaeliad arall hefo’r potensial mawr ar gyfer ail-ddatblygu.
Bydd y cynllun yn cychwyn ar raglen adnewyddu mewn tair rhan i ail-agor yr adeilad fel tafarn, caffi/bwyty ar y llawr isaf, gofod ar gyfer cyfarfodydd cymunedol a gweithleoedd ar y llawr cyntaf, gyda dau lawr o ystafelloedd gwesty uwchben.Mae cyfarfodydd trafod cynlluniau gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill ynghŷd â thrafodaethau hefo asiantaethau ariannu yn mynd rhagddynt.
Dobson Owen
3 Thomas Buildings
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5HH
post@dobsonowen.com
01758 614181

















